&

mynediad at wybodaeth ddefnyddiol o drefi clyfar a lleoedd clyfar ar hyd a lled cymru

wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth gan fenter gymdeithasol menter môn a’r datblygwyr meddalwedd o gymru, kodergarten, mae patrwm yn rhannu data clyfar i’ch helpu chi, eich busnes, eich cymuned.....

Menter Môn

I gael gwybod mwy am ymweliadau, amser aros, demograffeg, y tywydd a llawer mwy

DECHRAU ARNI

Mae Patrwm yn llwyfan rhannu data ar gyfer trefi clyfar a lleoedd clyfar ar hyd a lled Cymru. Mae’n casglu data yn ddiogel o WiFi cyhoeddus a’r Rhyngrwyd Pethau a Synwyryddion Data eraill. Yna mae’n anonymeiddio ac yn trefnu’r data hwn a’i gyflwyno’n weledol mewn fformatau hawdd eu deall, gan gynnwys graffiau a siartiau bar yn barod i chi eu defnyddio.

GWYBODAETH BELLACH
Siart Data
Siart Data

Patrwm ar waith

Gan fod yna gymaint o syniadau i’w treialu pan yn cychwyn busnes, buaswn wedi bod wrth fy modd cael mynediad at llwyfan fel Patrwm ar gyfer gwneud penderfyniadau cyn agor fy nghaffi. Mi fuasai wedi arbed lot fawr o waith dyfalu a phrofi!

KIKI REES-STAVROS
Perchennog Busnes a Swyddog Prosiect Smart Gwynedd a Mon

Kiki Rees-Stavros
Network Network Network

Sut alla i defnyddio Patrwm?

DADANSODDEG AR GYFER LLEOEDD CLYFAR

Gallwch ddarganfod pan fydd pobl yn ymweld â lleoliad, beth yw hyd eu harhosiad a pha ddyddiau yw’r rhai prysuraf.

DEALL MWY AM YMWELWYR I’CH TREF

Pan fydd pobl yn cofrestru i ddefnyddio’r WiFi cymunedol sydd ar gael ar draws Gwynedd ac Ynys Môn, gofynnir rhai cwestiynau i ddefnyddwyr. Rydym yn agregu ac yn anonymeiddio’r rhain yn barod i chi eu defnyddio a’u rhannu

CYMHARU EICH LLEOLIAD RHAI ERAILL

Gallwch gyflwyno cyd-destun i’ch sgyrsiau am leoedd - sut mae lle arall yn cymharu? Mae Patrwm yn cofio'r data rydych wedi dewis ei weld er mwyn i chi allu dychwelyd i’ch dangosfwrdd dethol personol.

Trefi Clyfar

Trefi Clyfar

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn cymorth yn ddiweddar er mwyn adfywio canol trefi yng Nghymru. Y nod yw galluogi busnesau i gynllunio prosiectau sy’n arwain at dwf economaidd yn ogystal â’u helpu i wneud y defnydd gorau o dechnoleg gwybodaeth.

Mae hyn yn cynnwys defnyddio data i helpu cwmnïau i gael dealltwriaeth o’u cwsmeriaid a thueddiadau a fydd yn cynorthwyo busnesau i gynllunio a gweithgareddau marchnata yn y dyfodol.

Mae tref glyfar yn ardal drefol sy’n defnyddio dulliau electronig a synwyryddion gwahanol i gasglu data. Defnyddir gwybodaeth a gesglir o’r data i reoli asedau, adnoddau a gwasanaethau yn effeithlon; yn gyfnewid, defnyddir y data i wella gweithrediadau a ffyniant ar draws y dref yn y dyfodol. EWCH I WEFAN TREFI CLYFAR

CASGLU DATA
DRWY PORTH

Porth

Porth yw ein porth mewngofnodi dwyieithog diogel WiFi. Gofynnwn i ymwelwyr sy’n cofrestru i gael y WiFi am ddim ateb pum cwestiwn a bydd y wybodaeth hon yn cael ei chasglu a’i delweddu gan Patrwm.

DARLLENWCH FWY

Sut mae hyn yn gweithio?

Darganfyddwch sut yr ydym yn cyfrif nifer yr ymwelwyr ac yn casglu data synwyryddion.

I gael gwybod mwy am ymweliadau, amser aros, demograffeg, y tywydd a llawer mwy.

DECHRAU ARNI