&

CANLLAW I DDEFNYDDWYR

Mae Patrwm yn llwyfan rhannu data ar gyfer trefi clyfar a lleoedd clyfar ar hyd a lled Cymru. Mae’n casglu data yn ddiogel o WiFi cyhoeddus a’r Rhyngrwyd Pethau a Synwyryddion Data eraill. Yna mae’n anonymeiddio ac yn trefnu’r data hwn a’i gyflwyno’n weledol mewn fformatau hawdd eu deall, gan gynnwys graffiau a siartiau bar yn barod i chi eu defnyddio.

Rydym yn cefnogi ac yn rhannu’r metrigau canlynol ar hyn o bryd:

  • Ymweliadau (nifer yr ymwelwyr)
  • Amser aros (amser y mae ymwelydd yn ei dreulio yn y lleoliad)
  • Tymheredd
  • Lleithder
  • Lefelau Gronynnol

Mae Patrwm yn cyflwyno pob metrig ar ei gerdyn ei hun, h.y. y map sy’n arddangos map ardal y rhwydwaith neu’r ymweliadau y dydd. Gellir newid yr ystod dyddiadau drwy ddewis y calendr ar waelod chwith y cerdyn neu newid yr ystod dyddiad ar gyfer pob cerdyn drwy ddewis yr eicon calendr ar ochr dde uchaf y dudalen (yn y bar pennawd glas).

Gallwch newid yr iaith o’r Gymraeg i’r Saesneg drwy ddewis CY neu EN ar ochr dde uchaf y bar dewislen.

Change language

Gallwch greu eich detholiad eich hun o ddata Patrwm. Dewiswch yr eicon glas mawr ar waelod chwith eich sgrin. Mae hyn yn eich galluogi i ddewis gwahanol leoliadau a gwahanol fetrigau. Y tro nesaf y byddwch yn ymweld â’r safle ar y ddyfais, bydd yn arddangos detholiad arbennig wedi’i ddiweddaru. Gallwch gymharu gwahanol leoedd ar draws yr un metrig h.y. grŵp oedran neu rywedd neu i gael golwg manwl ar un lle.

Build a custom view

Gallwch lawrlwytho data crai drwy ddewis y ddewislen hambyrgyr (tair llinell lorweddol gyfochrog) ar ochr dde uchaf pob cerdyn. Mae’r data yn cael ei lawrlwytho fel ffeil CSV y gellir ei mewngludo yn rhwydd i daenlen neu gronfa ddata. Gallwch hefyd allgludo’r cardiau fel graffeg i’w defnyddio mewn adroddiadau neu negeseuon e-bost.

Download raw data

Cliriwch y dudalen a dechrau o’r newydd drwy ddewis yr X mawr ar y bar dewislen uchaf.

Clear page

I ychwanegu cerdyn dewiswch yr arwydd + glas ar waelod chwith y sgrin. Cyflwynir rhestr i chi o’r lleoliadau sydd gan Patrwm. Dewiswch y cylch glas wrth ymyl yr enw lle a bydd cwymplen yn ymddangos gyda’r holl opsiynau. Dewiswch yr opsiynau ac yna dewis ADD. I ychwanegu mwy o gardiau gallwch ddewis y + glas mawr ar waelod dde y sgrin.

Select a place Menu options

I ddileu cerdyn dewiswch REMOVE ar waelod dde y cerdyn.

Remove card

Os ydych eisiau trefnu’r cardiau i ymddangos yn daclus uwchben ei gilydd e.e. os ydych wedi dewis dau gerdyn ar gyfer pob lle a’ch bod yn defnyddio gliniadur neu lechen, gallwch gulhau’r ffenestr bori a bydd yn ailraddio i ddangos dau gerdyn fesul llinell.

Tidy cards

CASGLU DATA DRWY PORTH

Porth yw ein porth mewngofnodi dwyieithog diogel WiFi. Gofynnwn i ymwelwyr sy’n cofrestru i gael y WiFi am ddim ateb pum cwestiwn a bydd y wybodaeth hon yn cael ei chasglu a’i delweddu gan Patrwm.

O borth mewngofnodi WiFi Porth rydym yn casglu data ar gyfer pob tref glyfar neu le clyfar. Dyma’r pum cwestiwn y gofynnir i ddefnyddwyr WiFi eu hateb:

  • Ystod oedran (e.e. 25-34)
  • Rhywedd
  • Diben yr ymweliad (dewis o restr)
  • Dewis iaith (er mwyn i ni allu cyfathrebu gyda hwy yn eu dewis iaith, Cymraeg neu Saesneg)
  • Ardal cod post cartref (e.e. LL57)

Rydym yn casglu cyfeiriad e-bost y defnyddiwr gyda chadarnhad eu bod yn derbyn y telerau ac amodau defnyddio a’u bod yn cydsynio i’w gwybodaeth bersonol gael ei phrosesu gan Menter Môn a’u partneriaid.

Yna rydym yn agregu’r data hwn ar gyfer pob diwrnod ac yn ei anfon o Porth i Patrwm i’w arddangos yn erbyn pob lleoliad. Mae’r holl ddata o Porth yn cael ei anonymeiddio cyn ei drosglwyddo i Patrwm.

Nid oes unrhyw wybodaeth bersonol sy’n ffurfio’r data agregedig.

CYFRIF NIFER YR YMWELWYR

Mae Patrwm yn defnyddio data sy’n cael ei gofnodi gan ein pwyntiau mynediad WiFi sydd wedi’u gosod ym mhob lle clyfar.

Mae pob dyfais symudol ddigidol, pan nad ydynt wedi’u cysylltu i rwydwaith WiFi, yn darlledu negeseuon arwahanol yn datgan eu dull adnabod unigryw (o’r enw cyfeiriad mac). Dyma sut mae eich dyfais yn cysylltu â’ch WiFi ar unwaith pan fyddwch yn cyrraedd adref. Mae eich dyfais yn dweud “Helo, fy enw yw XYZ123” pan fyddwch yn cyrraedd adref ac mae eich llwybrydd WiFi yn adnabod hyn ac yn cysylltu’r ddyfais yn gyflym.

Pan fyddwch allan o’r tŷ ac nad ydych wedi cysylltu dyma beth mae eich dyfais yn ei wneud. Rydym yn casglu’r rhifau hyn ac yna yn eu haposod drwy ddefnyddio proses o’r enw stwnsio a halltu - sy’n gwneud y broses yn un ddiogel ac sy’n sicrhau na all Patrwm ganfod y cyfeiriad mac gwreiddiol.

Ar ddiwedd y dydd, mae Patrwm yn cyfrifo am ba hyd yr oedd y ddyfais hon yn y rhwydwaith. Os bydd y dull adnabod sydd wedi’i stwnsio a’i halltu wedi aros yn rhwydwaith tref glyfar am 37 munud, yna byddwn yn ychwanegu hyn i’r cyfrif 30-60 munud.

Pan fyddwn wedi gorffen agregu’r cyfeiriadau sydd wedi’u stwnsio a’u halltu, bydd data y diwrnod hwnnw yn cael ei ddileu ac mae Patrwm yn cadw’r cyfansymiau/cyfrifiadau terfynol yn unig. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau nad ydym yn cadw unrhyw ddata y gellir ystyried ei fod yn ddata personol am gyfnod hwy nag sydd angen er mwyn i ni ei brosesu. Nid ydym yn cadw unrhyw gopïau wrth gefn o’r data crai, wedi’i stwnsio a’i halltu. Dim ond y data agregedig sydd wedi’u brosesu a gedwir wrth gefn.

Mae Patrwm yn arddangos data y diwrnod blaenorol yn ôl i pryd y gosodwyd y rhwydwaith yn wreiddiol. Bydd data am ymwelwyr heddiw ar gael i’w weld fory.

Nid yw cyfrif nifer y dyfeisiau yr un fath â chyfrif nifer y bobl, ond mae’n ddangosydd da i helpu i ddeall patrymau gweithgarwch yn well mewn ardal dros amser ac yn ystod diwrnod.

Noder nad yw’r dadansoddiad rhywedd o reidrwydd yn cyfateb â’r data ar nifer yr ymwelwyr, ond gall ddarparu dangosiad da.

CASGLU DATA SYNWYRYDDION

Rydym yn trin data synwyryddion yn wahanol. Rydym yn ei gasglu’n aml h.y. mae data gronynnol yn cael ei fesur a’i drefnu mewn amser go iawn bob 20 eiliad. Rydym yn storio’r data hwn ar ei ffurf grai am 3 i 5 mlynedd.

Ar ddiwedd pob diwrnod rydym yn prosesu’r data synwyryddion ac yn rhesymoli sut y gellir delweddu hyn er mwyn i ddata synwyryddion o’r wythnos ddiwethaf arafu i tua bob 5 munud, yna bob awr. Mae’r data synwyryddion crai yn cael ei storio yn y cwmwl i’w ddefnyddio yn y dyfodol.

Mae ein synwyryddion fel arfer yn cael eu pweru gan fatris ac maent yn defnyddio rhwydwaith ardal eang ystod hir (LoRaWaN) i drosglwyddo data yn ddiogel yn ôl i Patrwm. Pan fydd y synwyryddion yn ffynhonnell agored, rydym bob amser yn ceisio dychwelyd eu data yn ôl i’r prosiect gwreiddiol hefyd yn ogystal â Patrwm. Bydd ein synwyryddion lefel gronynnol a sain bob amser yn dychwelyd y data i’r system o gymunedau synwyryddion yn ogystal â Patrwm.

Rydym yn gweithio yn awr i gefnogi ystod ehangach o synwyryddion, gan gynnwys:

  • Synwyryddion biniau
  • Synwyryddion tywydd
  • Synwyryddion lefel sain
  • Synwyryddion parcio